Mae angen i Lywodraeth San Steffan ddysgu o “gamgymeriadau” Margaret Thatcher yn yr 80au, yn ôl Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander.

Dywedodd y Democrat Rhyddfrydol fod y Llywodraeth yn gweithio’n galed er mwyn sicrhau nad oedd eu polisïau yn creu diweithdra mawr.

Ond wrth siarad ar Sky News dywedodd Danny Alexander nad oedd am ddweud a ddylai’r wladwriaeth gynnal angladd cyhoeddus ar gyfer Margaret Thatcher ai peidio.

“Mae Margaret Thatcher wedi gadael ei marc ar wleidyddiaeth heddiw. Mae’n sicr wedi gadael ei marc ar wleidyddiaeth yn yr Alban,” meddai.

“Mae angladd wedi ei gynnal gan y wladwriaeth yn fater a fydd angen ei ystyried yn y man. Rydw i’n gwybod fod trafodaeth wedi bod yn mynd rhagddo.

“Beth sy’n bwysig wrth drafod cyflogau penaethiaid cwmnïau, y sefyllfa yn yr Alban, a sefyllfa economaidd pobol ifanc, ydi nad ydyn ni’n gwneud yr un camgymeriadau wnaeth Margaret Thatcher yn yr 80au.

“Mae’n wir ei bod hi wedi gwneud llawer o bethau da i’r wlad hefyd.

“Rydyn ni’n wynebu cyfnod heriol iawn dros y blynyddoedd nesaf ac yn gorfod cyfyngu ar weithredoedd elit cyfoethog sydd wedi eu datgysylltu o’r realiti hwnnw.

“Rydyn ni’n ceisio sicrhau nad ydi pobol ifanc yn dioddef o ganlyniad i gyfnodau hir o ddiweithdra fel y digwyddodd yn yr 80au.

“Mae’n rhaid dysgu gwersi, yn hytrach na gwneud yr un camgymeriadau eto. Rydyn ni fel Llywodraeth Glymblaid yn gwneud hynny.”