Fe fydd Prydain yn defnyddio ei feto er mwyn atal unrhyw ymgais i gyflwyno ‘treth Twm Sion Cati’ ar fanciau’r Undeb Ewropeaidd, meddai’r Prif Weinidog heddiw.

Mae arweinwyr yr Almaen a Ffrainc yn awyddus i gyflwyno’r ‘dreth Twm Sion Cati’ (neu Robin Hood Tax) fyddai yn atal hapfasnachu wrth i bobol brynu a gwerthu cyfranddaliadau.

Dywedodd Daid Cameron fod rhwydd hynt i Ffrainc a’r Almaen gyflwyno treth o’r fath o fewn ffiniau eu gwledydd eu hunain.

Mae gweinidog ariannol Ffrainc, Francois Baroin, eisoes wedi awgrymu y gallai hynny ddigwydd.

Fe fyddai cyflwyno treth o’r fath yn yr Undeb Ewropeaidd heb ei gyflwyno ar draws gweddill y byd yn niweidiol i swyddi a chyfoeth pobol Ewrop, meddai Cameron.

“Os yw’r Ffrancwyr eu hunain eisiau bwrw ymlaen â’r dreth o fewn eu gwlad eu hunain yna mae’n iawn gen i,” meddai David Cameron ar raglen Andrew Marr y bore ma.

“Ond wrth gyflwyno treth Ewropeaidd ni fydd y dreth yn bodoli mewn llefydd eraill, felly fe fydda i yn atal hynny os nad yw’r byd i gyd yn penderfynu cyflwyno ryw fath o dreth.”