Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn bwriadu ail-ddefnyddio miloedd o goed Nadolig er mwyn atal nentydd rhag gorlifo a’u glannau rhag erydu, cyhoeddwyd heddiw.
Bydd yr asiantaeth yn gosod y coed conwydden sydd heb eu gwerthu ar hyd glannau’r afonydd er mwyn gweld a ydyn nhw’n effeithiol.
Yn ogystal ag atal llifogydd ac erydu y gobaith yw y bydd y coed yn dal llaid a fyddai fel arall yn llethu wyau pysgod a’u hatal rhag deor, meddai Asiantaeth yr Amgylchedd.
Maen nhw’n ystyried y coed yn fodd “gwyrddach” o amddiffyn yr afonydd na gosod stanciau metal ar hyd y glannau.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd eu bod nhw eisoes wedi profi effeithlonrwydd defnyddio coed Nadolig ar Afon Bollin yn Swydd Caer.
“Dyma anrheg Nadolig gwyrdd i’r bywyd gwyllt sy’n byw ar lannau ein hafonydd,” meddai Mike Farrell, swyddog pysgodfeydd yr asiantaeth.
“Mae cartrefi yn cael eu hamddiffyn rhag llifogydd a chartrefi newydd yn cael eu creu i famaliaid, pysgod a chreaduriaid eraill.”