Mae disgwyl y bydd tua 600 o bobol yn cymryd rhan yn nofiad blynyddol Gŵyl San Steffan yn Ninbych-y-Pysgod heddiw, a miloedd mwy yn gwylio.

Dyma’r 41fed blwyddyn yn olynol y mae’r dref wedi cynnal y nofiad, ac mae disgwyl y bydd y tywydd annhymhorol yn hwb i’r niferoedd fydd yn cymryd rhan eleni.

Mae’r digwyddiad yn Sir Benfro wedi datblygu yn un o uchafbwyntiau tymor y Nadolig yn yr ardal ac yn denu pobol o bob cwr o Brydain.

Hyd yn oed yn nhywydd rhewllyd ac eira’r llynedd fe gymerodd tua 350 o nofwyr rhan. Mae’r digwyddiad yn codi llawer iawn o arian i sawl elusen bob blwyddyn.

Mae’r dref wedi cael hyd yn oed mwy o sylw eleni ar ôl i archfarchnad Tesco benderfynu cynnwys y digwyddiad yn eu hysbyseb Nadoligaidd.

“Dyma’r mwyaf o sylw mae Dinbych-y-Pysgod wedi ei gael ar y teledu erioed,” meddai Chris Osborne, cadeirydd y nofiad.

“Yn ogystal â hysbyseb Tesco mae Grand Designs, Ironman Wales, Don’t Tell the Bride a Mayday Mayday wedi darlledu rhaglenni am yr ardal.”