Parc y Scarlets
Wedi pythefnos digon siomedig yng nghystadleuaeth y Cwpan Heiniken, tybia i taw ennill y Gynghrair fydd uchelgais y Gweilch eleni.

Mae’r ornest ddydd San Steffan yn hollbwysig ym Mharc y Scarlets lle mae’r holl docynnau wedi eu hen werthu.

Mae sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf fwy Cwpan Heineken na heb yn nwylo’r mathemategwyr wedi’r ddwy gêm yn erbyn y Saraseniaid.

O ystyried y diffyg profiad sydd yn y rhanbarth, a’r ffaith bod y “sêr” wedi bod ar ddyletswydd ryngwladol ar ddechrau’r tymor, pam ydw i’n synnu nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd uchelfannau Ewrop eto eleni?

Problemau’r Gweilch

Mae’r cnwd diweddaraf o dalent lleol wedi llwyddo i drechu pob un o ranbarthau Iwerddon eleni, a chyn i Richie Gray sgorio cais dadleuol tu hwnt yn Glasgow, roedden nhw’n ddiguro.

Ai’r troad hwn sydd wedi arwain at ddiffyg hyder y tîm? Ai diffyg hyder yntau gorhyder a arweiniodd at gêm gyfartal yn erbyn Treviso? Y gwir amdani yw bod perfformiadau wedi dirywio yn sylweddol ers y golled gyntaf yna yn Glasgow.

Ar nodyn mwy positif, mae’r Gweilch yn ddiguro yn erbyn eu gwrthwynebwyr nesaf ers Rhagfyr 2007. Serch hynny, mae tîm y Sosban wedi bod yn chwarae’n dda yn ddiweddar a phe bai eu cicwyr wedi bod yn fwy cywir, byddai un troed ganddynt yn rownd yr wyth olaf Cwpan Heiniken eisoes.

Priestland v Biggar, North v Shane

Braf fydd gweld dau hen elyn yn mynd benben â’i gilydd o flaen torf o bymtheg mil a mwy yn arddangos cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig i fyd rygbi. Bydd y frwydr rhwng Dan Biggar a Rhys Priestland yn ddiddorol iawn. Mae’n siŵr gen i fod Biggar yn torri ‘i fol am gael gafael ar grys rhif 10 Cymru.

Mae Priestland wedi creu argraff fawr ar Warren Gatland a’i dîm, ac yn ôl Scott Johnson mae Biggar bellach yn angof i’r rheolwr cenedlaethol. Dyma’r cyfle gorau posib i’r maswr ifanc ddangos cystal chwaraewr yw e.

Yr hen a ŵyr, yr ifanc a dybia yw’r hen ddywediad. Cawn weld pa mor wir yw hynny pan wyneba Shane Williams a George North ei gilydd am yr eildro eleni. Mae’r cawr ifanc wedi rhyfeddu pobl ledled y Byd gyda’i gryfder a’i nerth anhygoel.

Er hynny, dw i’n siŵr y bydd gan y dewin o’r Aman digon i’w ddweud ar lefel rhanbarthol ar ôl ffarwelio â’r llwyfan rhyngwladol.

Penderfynu’r canlyniad?

Mae yna ddau sydd yn dynn wrth sodlau Sam Warburton yng Nghymru. Bydd y frwydr rhwng Rob McCusker a Justin Tipuric werth i’w wylio. Dau ifanc sydd yn chwarae’n eithriadol o dda ar hyn o bryd a’r peryg yw bydd y naill yn diddymu’r llall. Gobeithio ddim.

Mae’r ornest ar y llawr yn bwysicach nag erioed ac efallai mai pa un bynnag o’r rhain a gaiff y gêm orau fydd yn ennill y gêm i’w rhanbarth.

Heb sgrym heb ddim meddai’r gwybodusion. Un peth sy’n sicr yw bod sgrym y Cochion wedi bod yn mynd sha’ nol cryn dipyn eleni. Gyda’r conglfaen Adam Jones nôl yn rhengoedd y Gweilch, fe fydd gan y cefnwyr blatfform arbennig i ymosod yn erbyn olwyr ifanc y Scarlets.

Serch hynny, roedd Iestyn Thomas yn anlwcus tu hwnt i beidio mynd i Gwpan y Byd eleni ac fe fydd ef a’i fachwr Matthew Rees am brofi eu bod hwythau yn flaenwyr gwerth ei halen.

Byddwch barod. Gallai hon fod yn glasur!