Bydd bocswyr a hyfforddwyr o bedwar ban byd yn dod i Gaerdydd yn 2013 ar gyfer Confensiwn Cyngor Bocsio’r Byd (y WBC).

Ac yn awr, mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, Neil McEvoy, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi ei ymgyrch i wneud y brifddinas yn gartref cydnabyddedig ar gyfer digwyddiadau bocsio mawr yn y dyfodol.

“Yn sgil yr hawl i gynnal Confensiwn yr WBC, daw miliynau o bunnoedd i’r economi leol; bydd yn cadarnhau enw da Cymru fel cartref i ddigwyddiadau rhyngwladol mawr a rhoi Caerdydd ar y map fel lleoliad i gystadleuaeth teitlau byd. Ond mae’n fwy na hynny i fi. Dylen ni gydnabod ein hanes o greu bocswyr ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o focswyr Cymreig nodedig.

“Credaf y byddai dod â Chonfensiwn y WBC a chystadleuaeth teitl byd i Gaerdydd yn gatalydd i ysbrydoli a datblygu’r genhedlaeth nesaf o focswyr, y Calzaghe neu’r Cleverly nesaf.

“Yn fy llythyr at Huw Lewis, y Gweinidog dros Dai, Adfywio ac Etifeddiaeth, rydw i’n galw arno i drefnu cyfarfod rhyngom i drafod y Confensiwn ac ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth i sicrhau y bydd ein llwyddiant i ddenu’r digwyddiad pwysig hwn i Gaerdydd yn dod â budd parhaol i holl bobl Cymru.”

Amcangyfrifir y bydd Confensiwn y WBC yn cyfrannu tua £3.2m at economi’r brifddinas. Fel rhan o’r digwyddiad, bydd pencampwyr bocsio’r presennol a’r gorffennol yn ymweld ag elusennau, campfeydd bocsio lleol a phrosiectau cymunedol.