Y cor yn recordio (oddi ar youtube)
Yn ôl y disgwyl, Côr y Gwragedd Milwrol – sy’n cynnwys nifer o Gymry – oedd ar frig y siartiau pop ddydd Nadolig.
Fe lwyddodd eu cân, Wherever You Are, i werthu 556,000 o gopïau yn ystod yr wythnos – mwy na gweddill yn 12 uchaf gyda’i gilydd.
Fe gafodd y côr ei ffurfio ar gyfer rhaglen deledu gan y cerddor Gareth Malone ac fe fydd yr elw o’r gwerthiant yn mynd at y Lleng Brydeinig a Chymdeithas Teuluoedd y lluoedd arfog.
Yn ôl un o’r gwragedd, Emma Williams, 33 oed, sydd bellach yn byw yn RAF Chivenor gyda’i gŵr Gavin, roedd eu llwyddiant yn afreal.
“Mae fel petai’n digwydd i rywun arall,” meddai. “Os edrychwch chi ar y geiriau mae’n gallu cyrraedd llawer o bobol – nid jyst pobol filwrol, ond eraill sydd wedi colli rhywun annwyl.”
Roedd hi a’i gŵr wedi gorfod treulio Nadoligau ar wahân yn y gorffennol, gan gynnwys un pan anwyd un o’u plant.