Mae rheithiwr ifanc wedi ei garcharu am 14 diwrnod ar ôl smalio ei fod yn sâl er mwyn mynd i wylio sioe gerdd yn y West End.

Fe allai Matthew Banks, 19, dreulio’r Nadolig dan glo ar ôl dweud wrth swyddogion yn Llys y Goron Manceinion ei fod yn rhy sâl i fynychu’r achos llys.

Bu’n rhaid atal yr achos llys am ddiwrnod ac anfon gweddill y rheithgor adref – wrth i Matthew Banks fwynhau Chicago yn y West End.

Ond cafodd ei ddal a dedfrydwyd i bythefnos mewn sefydliad troseddwyr ifanc gan yr Ustus Martin Rudland. Parhaodd yr achos llys a daeth yr 11 rheithiwr arall i benderfyniad hebddo.

Dywedodd yr Ustus Martin Rudland nad oedd yn benderfyniad hawdd rhoi Matthew Banks dan glo ond fod dweud celwydd wrth swyddog llys am reswm mor “wamal” yn drosedd difrifol.

Dywedodd mam y llanc, Debbie Ennis, 49 o Swydd Stafford, fod y ddedfryd yn “wirion bost” ac y byddai hi’n apelio er mwyn sicrhau bod ei mab adref dros y Nadolig.