Speed - wedi gwella tîm Cymru
Mae’n newyddion na fydd yn rhoi llawer o gysur i gefnogwyr pêl-droed Cymru yn dilyn marwolaeth eu hyfforddwr Gary Speed.

Ond yn ôl rhestr detholion FIFA,  tîm pêl-drod Cymru sydd wedi gwella fwyaf yn y byd y flwyddyn hon.

Dan orcuchwiliaeth Speed maen nhw wedi symud o’r 116eg safle i’r 48fed safle yn y byd. Cymerodd Speed, a fu farw fis diwethaf yn 42 oed, yr awenau ar ddiwedd 2010.

Yn ystod cyfnod Gary Speed wrth y llyw roedd Cymru wedi maeddu Montenegro, y Swistir a Bwlgaria yn rowndiau cymhwysol Ewro 2012.

Roedd hefyd sawl perfformiad nodedig mewn gemau cyfeillgar, gan gynnwys buddugoliaeth 4-1 dros Norwy yn ei gêm olaf yn rheolwr.

Yn ystod y cyfnod hwnnw enillodd Cymru 330 o bwyntiau dan system Fifa, mwy na unrhyw dim arall yn y byd.

Mae Sbaen yn rhif un yn y byd ar hyn o bryd, o flaen yr Iseldiroedd, yr Almaen ac Uruguay. Mae Lloegr yn y pumed safle.