Roedd mam a’i dau fab, y cafwyd hyd i’w cyrff mewn tŷ yn Leeds ddydd Sul, wedi cael eu trywanu, meddai’r heddlu.

Mae’n debyg bod gŵr Clair Smith, 36, wedi ymosod arni hi a’i feibion Ben, naw oed, ac Aaron, oedd yn flwydd oed. Bu farw Richard Smith, 37, ar ôl anadlu mwg.

Cafwyd hyd i’w cyrff mewn ystafell wely yn eu tŷ yn Sheridan Way, Pudsey, ger Leeds, ddydd Sul ar ôl i berthnasau’r teulu ffonio’r heddlu.

Dywed yr heddlu bod Clair Smith wedi marw ar ôl cael ei thrywanu unwaith yn ei brest, ynghyd â’i mab Aaron. Roedd Ben hefyd wedi ei drywanu yn ei frest ond bu farw ar ôl cael ei fygu.

Mae’r heddlu’n credu bod rhywbeth wedi digwydd nos Wener, neu yn ystod oriau man fore Sadwrn, ac mae nhw’n apelio am wybodaeth.