Milly Dowler
Y Twrnai Cyffredinol wedi ennill yr hawl i ddwyn achos o ddirmyg llys yn erbyn dau bapur newydd am eu hadroddiadau am Levi Bellfield, gafwyd yn euog o lofruddio a chipio Milly Dowler.
Mae dau farnwr yn yr Uchel Lys yn Llundain wedi rhoi’r hawl i Dominic Grieve QC ddwyn achos yn erbyn y Daily Mail a’r Daily Mirror.
Cafodd Bellfield ei ddyfarnu’n euog ar 23 Fehefin o gipio a llofruddio’r ferch ysgol 13 oed Milly Dowler.
Roedd y rheithgor yn dal i ystyried cyhuddiad arall yn erbyn Levi Bellfield, sef ei fod wedi ceisio cipio Rachel Cowles, 11 oed, y diwrnod cyn iddo gipio Milly Dowler o stryd yn Walton-on-Thames, Surrey yn 2002.
Ond ar 24 Fehefin fe benderfynodd y barnwr Mr Ustus Wilkie, na ddylai’r rheithgor gofnodi rheithfarn am y cyhuddiad yn ymwneud â Rachel Cowles, gan ddweud bod y cyhoeddusrwydd am Bellfield mor rhagfarnllyd, fel na ellid disgwyl i’r rheithgor ei ystyried.
Roedd y ddau bapur newydd wedi dadlau na fyddai eu hadroddiadau wedi achosi rhagfarn. Fe fydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer gwrandawiad llawn i’r honiadau o ddirmyg llys.