Colette Davies
Mae teulu Colette Davies, fu farw tra ar ei mis mel yn India yn 2004, wedi talu teyrnged iddi.
Dywedodd teulu Colette Davies, oedd yn dod o Benybont ar Ogwr, bod colled mawr ar ôl y fam, merch, modryb a ffrind.
Bu farw’r wraig 39 oed ar ôl iddi syrthio 80 o droedfeddi wrth ymyl afon yn Gaura yn nhalaith Himachal Pradesh tra ar wyliau gyda’i gŵr.
Mae ei gŵr Peter Davies, 50, wedi ei gyhuddo o’i llofruddiaeth.
Dywedodd ei theulu ei bod yn “berson ffeind a charedig” ond bod ei bywyd wedi dod i ben yn ddisymwth ar Chwefror 27, 2004.
“Yn ystod yr amser a aeth heibio, mae hi wedi colli’r cyfle i weld ei thri phlentyn yn datblygu i fod yn oedolion hyfryd, ac wedi colli’r cyfle i weld ei wyres – byddai wedi dotio arni.”
Ychwanegodd y teulu eu bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth Heddlu De Cymru a’r tîm sydd wedi bod yn ail-ymchwilio i achos ei marwolaeth, a’u bod yn gobeithio y bydd yr ansicrwydd a’r tristwch dros yr wyth mlynedd diwethaf yn dod i ben cyn hir.
Mae’r teulu a Heddlu De Cymru hefyd yn parhau i apelio am wybodaeth ynglŷn â amgylchiadau marwolaeth Colette Davies. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 01639 889732 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.