Mae dros 3,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i geisio achub becws yn Ynys Môn.

Mae Yvonne Roberts, perchennog Becws Gwalia, wedi derbyn rhybudd tri mis i adael y becws ar  Stryd y Bont yn Llangefni, meddai wrth Golwg360.

Mae’n cyflogi 10 o bobl yn y becws ers cymryd yr awenau dair blynedd yn ôl i fis  Gorffennaf.

“Dw i’n trio cwffio i gadw’r lle i fynd,” meddai Yvonee Roberts wrth Golwg360.

Dywedodd fod “dros 3,000 o bobl” wedi arwyddo deiseb i geisio achub y becws a hynny mewn cyfnod o dair wythnos.

“Mae’r ymateb gan y bobl leol wedi bod yn wych – maen nhw’i gyd yn cwffio i gadw’r lle i fynd,” meddai.

Dywedodd Yvone Roberts  bod y becws mewn safle perffaith: “Mae na barcio am ddim tu allan i’r siop ac mae hogiau gwaith yn dod yma i nôl bwyd,” meddai.

Mae sïon ar led mai bwriad perchnogion y safle yw  adeiladu fflatiau yno.  Doedd Yvonne Roberts ddim yn gallu cadarnhau’r sylwadau nac ymhelaethu ar y sefyllfa am resymau cyfreithiol.