Dywedodd Thomas Cook heddiw eu bod yn cynnal rhagor o drafodaethau gyda’u banciau er mwyn sicrhau rhagor o arian yn ystod y cyfnod llwm rhwng mis Rhagfyr a Ionawr.
Fis diwethaf fe lwyddodd y cwmni i sicrhau £100miliwn ychwanegol.
Roedd Thomas Cook – sy’n ystyried cau 200 o’u siopau – wedi gohirio cyhoeddi eu canlyniadau am y flwyddyn nes eu bod nhw wedi cynnal trafodaethau gyda’r banciau.
Roedd cyfranddaliadau Thomas Cook wedi agor 62% yn is heddiw. Mae disgwyl i’r cwmni teithio gyhoeddi gostyngiad o 31% yn eu helw heddiw i £191.1m. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r cwmni ar ôl i’w cyfranddaliadau ostwng yn sylweddol, ac ymddiswyddiad y prif weithredwr Manny Fontenla-Novoa.
Mae gan y cwmni ddyledion o hyd at £1biliwn.