Protestiadau ym mis Chwefror
Mae cabinet yr Aifft wedi cynnig ymddiswyddo ar ôl tridiau o wrthdaro ffyrnig rhwng degau o filoedd o wrthdystwyr a’r heddlu yn Sgwar Tahrir – ond mae’r cynnig wedi methu â phlesio protestwyr sy’n gwrthwynebu’r cyngor milwrol sy’n rheoli’r wlad.
Yn ôl y weinidogaeth iechyd a meddyg sy’n gweithio mewn ysbyty dros dro ger y sgwâr yn Cairo, mae o leiaf 26 o bobl wedi eu lladd a 1,750 wedi eu hanafu yn y gwrthdaro. Bu’r heddlu yn tanio nwy dagrau at y protestwyr, oedd wedi ymateb drwy daflu cerrig a ffrwydron at yr heddlu.
Mae’r protestwyr yn gobeithio cynnal gwrthryfel arall i ddisodli’r cyngor milwrol sydd wedi methu yn eu hymdrech i sefydlogi’r wlad, achub yr economi a chyflwyno system mwy democrataidd.
Nôl ym mis Chwefror roedd y protestwyr wedi llwyddo i ddisodli’r Arlywydd Hosni Mubarak.
Ond mae’r cyngor milwrol yn dweud na fyddan nhw trosglwyddo grym nes bod etholiadau arlywyddol yn cael eu cynnal rywbryd ar ddiwedd 2012 neu ar ddechrau 2013.