Steve Coogan Llun: the1secondfilm
Fe fydd y comedїwr Steve Coogan yn ymhlith y rhai fydd yn rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad i safonau’r wasg heddiw.

Fe fydd Ymchwiliad Leveson, sy’n cael ei gynnal yn Llundain, hefyd yn clywed tystiolaeth gan y cyn-beldroediwr Garry Flitcroft, cyn ymgynghorydd busnes y fodel Elle Machpherson, Mary-Ellen Field, a Margaret Watson, mam Diane a gafodd ei thrywanu i farwolaeth mewn ysgol yn Glasgow.

Mae nhw i gyd yn honni bod y wasg wedi amharu ar eu preifatrwydd.

Rheini y ferch ysgol Milly Dowler, gafodd ei llofruddio yn 2002, oedd y rhai cyntaf i roi tystiolaeth i’r ymchwiliad ddoe, ynghyd â’r actor Hugh Grant oedd yn honni bod y Mail on Sunday o bosib wedi hacio ei ffôn. Mae’r papur newydd wedi gwadu’r honiadau.