Hugh Grant
Mae’r actor Hugh Grant wedi awgrymu wrth Ymchwiliad Leveson heddiw bod y Mail on Sunday wedi hacio ei ffôn.

Dywedodd Hugh Grant bod stori “bisâr” amdano wedi ymddangos yn y papur ym mis Chwefror 2007.

Dywedodd y byddai “wrth ei fodd yn clywed esboniad” y Mail on Sunday i’r stori.

Ychwanegodd Hugh Grant nad oedd wedi gwneud yr honiadau yn gyhoeddus cyn hyn.

Roedd y stori yn honi fod ei berthynas gyda Jemima Khan ar y pryd dan bwysau oherwydd ei “sgyrsiau ffôn ganol nos” gyda dynes arall. Dywedodd yr actor bod nifer o straeon eraill mewn sawl papur newydd arall wedi ymyrryd â’i fywyd personol.

Yn gynharach, fe fu mam Milly Dowler yn rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad.

Dywedodd Sally Dowler nad oedd hi wedi cysgu am dair noson ar ôl iddi ddarganfod bod ditectif preifat yn gweithio i bapur y News of the World wedi hacio ffôn ei merch.

Dywedodd Sally Dowler ei bod hi “wrth ei bodd” ar ôl i negeseuon gael ei dileu oddiar ar ffôn Milly, gan roi gobaith iddi bod ei merch yn dal yn fyw. Ond mae’n ymddangos mai’r ditectif Glenn Mulcaire oedd wedi dileu negeseuon y ferch ysgol gafodd ei llofruddio yn 2002, tra’n hacio ei ffôn.

Bu Sally Dowler hefyd yn disgrifio sut yr oedd llun wedi ymddangos yn y News of the World ohoni hi a’i gŵr Bob yn dilyn y llwybr a gymerodd Milly, saith wythnos ar ôl iddi ddiflannu.

“Doedd neb o gwmpas,” meddai Sally Dowler. “Naethon ni ddim gweld neb – mae’n rhaid eu bod nhw wedi defnyddio lens deleffoto,”

Gan ychwanegu bod y papur wedi amharu ar “foment preifat o alar”.

Dywedodd Bob Dowler bod y cwpl yn teimlo’n bryderus am adael y tŷ oherwydd y sylw di-baid gan newyddiadurwyr.

Cafodd Ymchwiliad Leveson ei sefydlu ym mis Gorffennaf gan y Prif Weinidog David Cameron mewn ymateb i’r datguddiad bod y News of the World wedi comisiynu Mulcaire i hacio ffôn Milly Dowler.

Dywedodd rhieni Milly Dowler eu bod yn teimlo ei bod y hynod o bwysig i bobl ddeall maint y broblem.

Cafodd Mulcaire a newyddiadurwr brenhinol y News of the World, Clive Goodman, eu carcharu ym mis Ionawr 2007 ar ôl iddyn nhw gyfaddef eu bod wedi gwrando ar negeseuon ffôn yn perthyn i aelodau o staff y teulu brenhinol.