Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi cynnydd yn eu helw yn ystod hanner cynta’r flwyddyn o £67 miliwn.
Er hynny, mae na ostyngiad wedi bod yn nifer y llythyron sy’n cael eu postio.
Roedd eu helw am y chwe mis hyd at fis Medi wedi cynyddu o £22m yn ystod yr un cyfnod y llynedd, ond roedd yn bennaf oherwydd yr elw a wnaed o barseli GLS European a busnes y Swyddfeydd Post.
Mae adran ddosbarthu’r Post Brenhinol wedi gwneud colled o £41m gyda nifer y llythyron yn gostwng 6% i 59 miliwn o eitemau, y ffigwr isaf ers rhyw 20 mlynedd.
Mae nifer y gweithlu wedi cael ei dorri o 5,000 yn ystod y flwyddyn gan gynnwys 2,000 o reolwyr. Mae gan y Post Brenhinol 163,000 o weithwyr – 50,000 yn llai na degawd yn ôl.
Roedd GLS wedi gwneud elw o £58m, a Swyddfeydd Post Cyf elw o £55m.
Dywedodd y prif weithredwr Moya Greene y byddai’n rhaid gwneud “newidiadau poenus” er mwyn sicrhau dyfodol y grŵp.
Mae hyd at 20 miliwn yn llai o lythyron yn cael eu postio bob dydd o’u gymharu â phum mlynedd yn ôl, er bod cynnydd wedi bod yn nifer y parseli sy’n cael eu postio, yn bennaf oherwydd y rhyngrwyd.