Efrog Newydd yn parhau yn darged i derfysgwyr
Mae dyn o’r Unol Daleithiau, sy’n cefnogi al Qaida, wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiadau yn ymwneud â therfysgaeth.
Mae Jose Pimentel, 27 oed, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i osod bomiau mewn gorsafoedd heddlu a swyddfeydd post yn Efrog Newydd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu Raymond Kelly eu bod nhw wedi gorfod ymateb yn gyflym i arestio Pimentel ar ddydd Sadwrn am ei fod ar fin gwireddu ei gynlluniau.
Deng mlynedd ers 9/11, mae Efrog Newydd yn parhau i fod yn un o brif dargedau terfysgwyr.
Roedd yr heddlu yn Efrog Newydd wedi bod yn dilyn Pimentel ers tua blwyddyn.
Roedd Pimentel, sy’n dod o’r Weriniaeth Ddominicaidd yn wreiddiol, wedi cynllwynio i osod dyfeisiadau ffrwydrol yng ngheir yr heddlu, a swyddfeydd post, yn ogystal â thargedu aelodau o’r lluoedd arfog oedd yn dychwelyd o dramor.
Does dim tystiolaeth bod Pimentel yn gweithio ar y cyd gydag unhrywun arall.
Cafodd cais am fechniaeth ei wrthod a chafodd Pimentel ei gadw yn y ddalfa.