Gwenda Thomas AC
Fe fydd cynllun gofal plant di-dâl mewn ardaloedd difreintiedig yn cael hwb o £55 miliwn ychwanegol, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae cynllun Dechrau’n Deg yn cynnig gofal di-dâl, rhan amser i blant rhwng dwy a thair oed.
Dywedodd Gwenda Thomas, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am blant a gwasanaethau cymdeithasol, y byddai nifer y plant sy’n elwa o’r cynllun yn dyblu.
Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw dywedodd yr Aelod Cynulliad: “Mae gyfnod anodd i deuluoedd ac mae’n rhaid i ni ymateb i ofynion y tlawd a’r mwyaf bregus.”
Dywedodd y byddai newid yn y modd mae’r arian yn cael ei ddosbarthu fel bod mwy o deuluoedd yn gallu cymryd mantais o’r cynllun.
Ychwanegodd y gallai’r cynllun wneud “gwahaniaeth mawr i fwy o deuluoedd a’u plant. Gallwn ni helpu i newid bywydau.”