Mae awdurdodau’r Almaen yn dweud bod ganddyn nhw “ychydig o dystiolaeth” fod Madeleine McCann wedi marw.
Mae troseddwr rhyw o’r Almaen, Christian Brueckner, wedi’i amau o fod yn gysylltiedig â diflaniad Madeleine McCann, meddai’r heddlu.
Roedd Christian Brueckner yn ardal yr Algarve ym Mhortiwgal ar Fai 3, 2007 a derbyniodd alwad ffôn yn Praia da Luz oddeutu awr cyn i Madeleine McCann, oedd yn dair oed ar y pryd, ddiflannu.
Mae’r awdurdodau eisoes wedi dweud eu bod yn meddwl bod Madeleine McCann wedi marw ac maen nhw’n ymchwilio i’r dyn dan amheuaeth o lofruddio.
Ddydd Llun (Mehefin 8), dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod ganddyn nhw ychydig o dystiolaeth fod Madeleine McCann wedi marw, ond dim digon i gynnal achos llys.
“Does gennym ni ddim tystiolaeth galed, does gennym ni ddim y dystiolaeth hanfodol, sef corff Madeleine McCann,” meddai wrth Sky News.
“Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim digon o dystiolaeth i gynnal achos llys, ond mae gennym ni ychydig o dystiolaeth mai fe (Christian Brueckner) sy’n gyfrifol.
“Dyna pam fod angen gwybodaeth gan bobol, yn enwedig llefydd mae e wedi byw, fel ein bod yn gallu targedu’r llefydd yma a chwilio am Madeleine yno.”