Mae miloedd o bobol wedi bod mewn eglwys i ymweld ag arch George Floyd yn ninas Houston yn Tecsas cyn ei angladd.

Roedd galarwyr yn gwisgo crys-T â’r geiriau ‘I can’t breathe’ arnyn nhw, gan adleisio’r ffordd y bu farw dan law’r heddlu ym Minneapolis.

 

Roedd rhai pobol wedi gyrru am rai oriau i dalu teyrnged iddo, ac mae teyrngedau wedi’u rhoi mewn sawl talaith arall.

 

Roedd e’n gwisgo siwt lliw brown wrth orwedd yn yr arch aur.

Fe arweiniodd ei farwolaeth ar Fai 25 at brotestiadau ar draws y byd, gan dynnu sylw at y ffordd mae pobol groenddu yn cael eu trin gan yr heddlu yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r plismon Derek Chauvin wedi’i gyhuddo o’i lofruddio ar ôl gwasgu ar ei wddf â’i benglin am ychydig yn llai na naw munud.

Mae’r digwyddiad wedi arwain sawl heddlu i adolygu’r ffordd maen nhw’n trin pobol yn y ddalfa.

Yn ôl Greg Abbott, llywodraethwr Gweriniaethol Tecsas, fydd marwolaeth George Floyd ddim yn ofer.

“Mae George Floyd yn mynd i newid trywydd dyfodol yr Unol Daleithiau,” meddai.

“Dydy George Floyd ddim wedi marw’n ofer.

“Bydd ei fywyd yn waddol byw am y ffordd mae America a Tecsas yn ymateb i’r drasiedi hon.”