Mae Prifysgol Abertawe’n dweud eu bod nhw’n ymchwilio i sylwadau hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol sydd wedi’u gwneud yn y gorffennol gan eu myfyrwyr.

Mae lle i gredu iddyn nhw ddod i wybod am y cysylltiad rhyngddyn nhw a sylwadau a honiadau sydd wedi’u gwneud gan gyn-ddisgyblion ysgol ramadeg yn ardal Loughborough.

Mewn trafodaeth am y sefyllfa ar Twitter, mae rhai yn sôn fod diwylliant hiliol yn yr ysgol ers blynyddoedd.

Fis Hydref y llynedd, roedd Duncan Byrne, pennaeth yr ysgol, yn feirniadol o Boris Johnson a’i lywodraeth am hybu iaith rywiaethol, gan ddweud nad yw gwleidyddion yn gosod esiampl i bobol ifanc.

Roedd eu hymddygiad, meddai, “yn gwrthdaro’n uniongyrchol ag ymdrechion ar draws y sector addysg i sicrhau bod plant yn dod yn aelodau crwn o’r gymdeithas, sy’n gallu trin pobol eraill â pharch a goddefgarwch”.

Ychwanegodd ei bod hi’n “bwysig fod bechgyn yn magu’r hyder i fod yn nhw eu hunain ac i siarad yn agored am eu hunaniaeth”.

Datganiad y brifysgol

“Heno, fe ddaethom i wybod am gyfres o sylwadau hiliol ffiaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yr honnir iddyn nhw gael eu postio gan fyfyrwyr Prifysgol Abertawe pan oedden nhw’n dal yn yr ysgol,” meddai’r brifysgol mewn datganiad.

“Rydym am ddanfon neges gref ein bod ni’n gymuned gynhwysol na fydd yn goddef unrhyw fath o ymddygiad hiliol.

Byddwn yn lansio ymchwiliad fel mater brys ac yn cymryd yr holl gamau priodol sydd ar gael i ni.”

Datganiad yr ysgol

Mewn datganiad, hefyd ar Twitter, dywed yr ysgol eu bod nhw’n ymwybodol o’r honiadau yr wythnos ddiwethaf, a’u bod nhw hefyd yn cynnal ymchwiliad.

“Does dim lle i hiliaeth yn ein cymdeithas,” meddai’r ysgol mewn datganiad.

“Cawsom ein siomi a’n tristháu o glywed am y profiadau a gafodd eu hadrodd i ni’r wythnos ddiwethaf ac sydd bellach yn destun ymchwiliad.

“Rydym yn cymryd pob pryder o’r fath o ddifrif.

“Byddwn yn gweithredu’n benderfynol i sicrhau bod yr ysgol yn amgylchfyd diogel a chynhwysol.”

Llythyr agored a deiseb

Yn dilyn cyfres o honiadau’n ymwneud â’r ysgol, mae mwy na 1,000 o bobol wedi llofnodi llythyr agored a deiseb yn galw am ymddiheuriad.

“Rydym ni, y llofnodwyr isod, yn nodi’r adroddiadau niferus diweddar am sarhau myfyrwyr croenddu yn Ysgol Ramadeg Loughborough mewn modd erchyll o hiliol,” meddai’r llythyr.

“Yn amlwg, nid yn unig y gwnaeth LGS greu a chynnal amgylchfyd lle’r oedd hiliaeth ac ymddygiad hiliol yn gallu ffynnu, ond fe wnaethon nhw fethu hefyd ag ymateb yn briodol pan gafodd yr ymddygiad ei adrodd.

“Mae hyn yn gwbl annerbyniol.”

Galw am ymddiheuriad

Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i alw am ymddiheuriad gan yr ysgol.

“Rydym yn galw ar LGS i gyhoeddi ymddiheuriad llawn i ddioddefwyr y sarhad ofnadwy hyn, i gynnig iawndal materol priodol ar gyfer y sarhad y gwnaethon nhw ei ddioddef yn eich gofal chi, ac i’w cefnogi nhw wrth geisio cyfiawnder a sicrhau bod y rhai wnaeth eu sarhau nhw yn wynebu canlyniadau priodol.

“Fodd bynnag, dyw ymateb i’r digwyddiadau unigol hyn ddim yn ddigon; rydym yn galw ymhellach ar LGS ac LES i wneud newidiadau sylweddol a hirhoedlog i’w polisi a’u diwylliant.

“Bydd y newidiadau hyn yn gofyn am arian ac ymroddiad parhaus, ond rydym yn sicr nad yw’r ysgol yn brin o adnoddau i fynd i’r afael â hyn.”

Awgrymiadau

Mae’r llythyr yn cynnig nifer o awgrymiadau ynghylch sut i wella diwylliant yr ysgol.

“Yn amlwg, mae angen i bolisïau am achosion o hiliaeth sy’n cael eu hadrodd gael eu hail-ysgrifennu’n llwyr, ar y cyd â phobol broffesiynol sydd wedi’u hyfforddi wrth adrodd am achosion, a hefyd gyda phobol o liw sy’n fyfyrwyr cyfredol ac yn gyn-fyfyrwyr.

“Mae angen hefyd i’r ysgol fynd i’r afael â’r diwylliant a’r strwythurau sy’n galluogi hiliaeth i ffynnu ar y campws.

“Mae angen i’r ysgol ariannu a chomisiynu addysg a hyfforddiant parhaus a chynhwysfawr ynghylch hil, hiliaeth a gweithredu’n wrth-hiliol fel bod staff a myfyrwyr yn sicrhau bod diwylliant yr ysgol yn newid a bod ymddygiad a gweithredoedd hiliol yn cael eu gwneud yn gwbl annerbyniol.

“Yn ogystal, mae angen rhoi mecanweithiau cefnogaeth estynedig i fyfyrwyr o liw ar waith er mwyn cydnabod yr amgylchfyd atgas ac anniogel y mae’r ysgol yn ei gynnal.

“Unwaith eto, dylid datblygu’r rhain yn seiliedig ar sgwrs am arfer dda gyfredol ac ar y cyd â myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr o liw.

“Yn olaf, dylai’r ysgol ystyried diwygio a datgoloneiddio eu cwricwlwm mewn modd trylwyr, gan ddechrau gyda’r adnoddau sydd ar gael trwy’r Cwricwlwm Du, er mwyn sichrau bod cyd-destunau a hanesion am hiliaeth yn y Deyrnas Unedig yn llwyr wybyddus ac yn cael eu deall o fewn yr ysgol.”