Bydd addoldai Lloegr yn agor eto ar Fehefin 15 i bobol gael gweddïo’n unigol.

Mae disgwyl y bydd pobol yn gallu addoli wrth gadw at reolau ymbellháu cymdeithasol.

Ond fydd seremonïau na gwasanaethau crefyddol ddim yn cael eu cynnal am y tro.

Fydd y rheolau ddim yn newid oni bai bod modd bodloni holl feini prawf Llywodraeth Prydain, a does dim disgwyl iddyn nhw gael eu hagor eto tan o leiaf Orffennaf 4.

Roedd rhai wedi bod yn beirniadu’r penderfyniad i agor siopau eto ar ôl ymlediad y coronafeirws, tra bod addoldai’n dal ynghau.

Daw’r penderfyniad ar ôl i weithgor drafod y sefyllfa fis diwethaf.

Mae eglwysi yn Lloegr ynghau ers Mawrth 24, gydag angladdau’n cael eu cynnal mewn amlosgfeydd neu fynwentydd, ac mae gwasanaethau wedi’u cynnal ar-lein o gartrefi offeiriaid.

Mae Eglwys Loegr wedi croesawu’r penderfyniad, ond mae Cyngor Mwslimiaid Prydain yn dweud nad oes “eglurder” ar weithredu’r cyfyngiadau.