Mae’r Annibynwyr Cymreig wedi mynegi eu “sioc” wrth Lysgennad Prydeinig yr Unol Daleithiau ynghylch y digwyddiadau sydd wedi arwain at brotestiadau gwrth-hiliaeth ar draws y byd.

Daw’r protestiadau, gan gynnwys rhai yng Nghymru, yn dilyn marwolaeth George Floyd, dyn croenddu, dan law’r heddlu ym Minneapolis.

Ers hynny, mae’r Arlywydd Donald Trump wedi amddiffyn yr heddlu gan ddweud nad oes lle i’r fath brotestiadau, ac mae wedi cael ei weld yn chwifio’r Beibl y tu allan i eglwys wrth fynegi ei farn ar y mater.

Yn ôl y Parchedig Jill-Hailey Harries, Llywydd yr Annibynwyr, mae gweithred yr arlywydd wedi gwaethygu sefyllfa oedd eisoes yn ymfflamychol.

Mae’n dweud yn y llythyr ei bod hi’n “gwerthfawrogi’r ofn a’r rhwystredigaeth sy’n gyrru pobol i’r fath eithafion”.

Mae’r llythyr hefyd wedi’i lofnodi gan y Parchedig Jeffrey Williams, cadeirydd yr Annibynwyr.

Y llythyr

Yn eu llythyr, mae’r ddau yn “cofrestru sioc a syndod yn sgil llofruddiaeth George Floyd dan law’r Heddlu Gwladol, y protestiadau a ralïau ar draws yr Unol Daleithiau a ddilynodd, ac amgyffred yr Arlywydd Donald Trump o’r argyfwng a’i ymateb ymosodol”.

Mae’r mudiad yn dweud eu bod nhw’n “ffieiddio at hiliaeth erioed” ac yn “credu yn yr hawl i brotestio”, ond eu bod nhw’n drist fod “rhai protestiadau wedi cynyddu i fod yn derfysgoedd”.

“Ond rydym yn llwyr werthfawrogi’r ofn a’r rhwystredigaeth sy’n gyrru pobol i’r fath eithafion ac wedi ffieiddio o weld yr arlywydd yn ymosodol tuag at ei bobol ei hun”.

Maen nhw’n dweud bod y digwyddiad y tu allan i eglwys, lle cafodd protestwyr ac arweinwyr eglwysig “eu symud â grym i roi lle i’r Arlywydd Trump annerch gwasg y byd mewn safiad ymosodol tra’n chwifio’r Beibl, gan wneud sefyllfa ymfflamychol yn waeth”.

“Rydym yn cydymdeimlo’n llwyr â lleiafrifoedd ethnig yn yr Unol Daleithiau sy’n byw mewn ofn o gael eu harestio a’u hisraddio, rydym yn poeni am sefydlogrwyd yn eich gwlad yn y dyfodol, ac yn gwerthfawrogi rhwystredigaeth pobol dda, gyfrifol Americanaidd sydd eisiau gwneud America’n ddiogel eto.”