Mae ysgolion yng ngogledd-orllewin Lloegr wedi gohirio ailagor yn sgil pryderon fod y coronafeirws yn dal i gynyddu yno.

Mae swyddogion iechyd cyhoeddus yng nghyngor Blackburn a Darwen yn Sir Gaerhirfryn a Tameside ym Manceinion Fwyaf wedi anfon negeseuon yn cynghori eu hysgolion i beidio ag ailagor.

Daw hyn ar ôl i ddata newydd ddangos bod cyfradd atgynhyrchu’r feirws, y gwerth ‘R’, fymryn yn uwch na’r trothwy allweddol o 1 yn rhanbarth Gogledd-Orllewin Lloegr.

Dyma’r gyfradd uchaf yn y Deyrnas Unedig, sy’n cymharu â chyfartaledd o 0.9 yn y rhan fwyaf o weddill Lloegr a 0.8 yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae unrhyw gyfradd sy’n uwch na 1 yn golygu bod y feirws ar gynnydd.