Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi gorchymyn y Pentagon i dynnu 9,500 o filwyr America o’r Almaen.
Mae hyn yn golygu lleihad o fwy na chwarter yn y 34,500 o aelodau lluoedd arfog America sydd wedi eu lleoli yn yr Almaen fel rhan o drefniant gyda Nato sy’n mynd yn ôl ers amser maith.
Mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion yn yr Almaen.
Dywedodd Norbert Roettgen, sy’n aelod o gynghrair y Canghellor Angela Merkel yn senedd yr Almaen, na allai weld unrhyw reswm ffeithiol dros dynnu’r milwyr hyn o’r wlad, a bod croeso i filwyr America yn yr Almaen.
Dywedodd Johann Wadephul, dirprwy gadeirydd yr un gynghrair seneddol fod penderfyniad America yn “dangos unwaith eto fod gweinyddiaeth Trump yn esgeuluso arweiniad sylfaenol”. Ychwanegodd y byddai Rwsia a Tsieina yn elwa ar anghydfod o fewn cynghrair gwledydd y gorllewin.