Mae meddygon a gwyddonwyr blaenllaw yn galw ar y Llywodraeth i gynnal ymchwiliad ar frys er mwyn paratoi Prydain ar gyfer ail don bosibl o’r coronafeirws yn yr hydref.

Mewn llythyr at bapur newydd y Guardian, mae’r 27 o arbenigwyr yn rhybuddio y gall llawer mwy o bobl farw os na fydd gan y Llywodraeth “atebion cyflym ymarferol i rai o’r problemau strwythurol sydd wedi rhwystro ymateb effeithiol i’r coronafeirws”.

Yn ôl yr arbenigwyr, mae’r diffyg cysylltiad rhwng y Gwasanaeth Iechyd, iechyd cyhoeddus a gofal cymdeithasol ac anallu i gynllunio ar gyfer nwyddau a gwasanaethau angenrheidiol yn bygwth tanseilio ymateb y Llywodraeth i don arall o achosion yn y dyfodol.

“Er gwaethaf ymdrechion penderfynol gan weithwyr iechyd proffesiynol a gwyddonwyr y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth, mae’r Deyrnas Unedig wedi profi un o’r cyfraddau uchaf o farwolaethau Covid-19 yn y byd, gyda’r tlawd a rhai grwpiau lleiafrifol ethnig wedi eu taro’n arbennig o ddrwg,” meddai’r gwyddonwyr yn eu llythyr.

“Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i ymchwiliad cyflym, tryloyw ac arbenigol i ymateb i’r problemau hyn. Dylai’r ymchwiliad gynnig atebion ymarferol i oresgyn y rhwystrau sy’n wynebu’r rheini ar reng flaen yr ymateb a’u helpu nhw i achub bywydau.”

Ymhlith y gwyddonwyr sydd wedi arwyddo’r llythyr mae cyn-gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd y Byd, yr Athro Anthony Costello a chyn-aelod o grŵp Sage y Llywodraeth, yr Athro Deenan Pillay.