Mae’r heddlu wedi rhybuddio am beryglon syrthio i gysgu wrth yrru cerbyd ar ôl i yrrwr gael ei garcharu am achosi marwolaeth dyn 73 oed.
Roedd Peter Weblin, 53, o Daventry, Swydd Northampton yn teithio ar hyd yr A5 drwy Glasfryn ger Corwen yn ei gar Ford Mondeo ar 6 Mehefin 2018 pan fu mewn gwrthdrawiad â fan wersylla VW.
Roedd y fan yn cael ei gyrru gan Colin Gardner, 73, a fu farw ddeg diwrnod yn ddiweddarach.
Ar ôl pledio’n euog i achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus cafodd Peter Weblin ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug i dair blynedd a dau fis o garchar a’i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd a saith mis.
Dywedodd y Rhingyll Meurig Jones o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Mae eiliad wedi newid bywydau teuluoedd am byth ac rydym yn cydymdeimlo’n ddwys â theulu Mr Gardner.
“Roedd hwn yn wrthdrawiad ofnadwy a ddylai fod wedi cael ei osgoi.
“Os ydych yn teimlo effaith blinder wrth yrru mae hwn yn rhybudd ei fod yn bryd dod o hyd i safle diogel a stopio. Peidiwch â pharhau gyda’ch siwrne tan fyddwch yn teimlo’n iawn i wneud hynny. Fel mae’r achos yma wedi dangos, mae goblygiadau gyrru tra wedi blino yn gallu bod yn drychinebus.”