Mae’r heddlu’n dweud bod ardal arfordirol Durdle Door yn Swydd Dorset ynghau i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno ddoe (dydd Sadwrn, Mai 30) ar ôl i dri o bobol gael eu hanafu’n ddifrifol ar ôl bod yn neidio oddi ar glogwyn i mewn i’r môr.

 

Mae disgwyl i’r ardal fod ynghau tan fory (dydd Llun, Mehefin 31), ac mae’r heddlu’n rhybuddio y byddan nhw’n symud pobol oddi yno pe bai rhaid.