Wrth i Sioe Flodau Chelsea gychwyn ar-lein, mae arbenigwyr garddwriaethol yn tynnu sylw at fanteision iechyd meddwl mannau gwyrdd, gyda thystiolaeth yn dangos bod pobl yn gwerthfawrogi eu gerddi yn fwy nag erioed yn ystod y cloi.

Byddai’r sioe flynyddol wedi croesawu aelodau o’r cyhoedd ac enwogion lu o heddiw ymlaen, nes i bandemig y coronafeirws orfodi’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) i ganslo’r digwyddiad.

Yn hytrach, mae’r sioe yn mynd ar-lein gyda rhaglen o ddigwyddiadau rhithwir.

Arlwy

Bydd modd i wylwyr gymryd rhan mewn teithiau y tu ôl i’r llenni, gweld arddangosiadau potio, cymryd rhan mewn clwb garddio yn yr ysgol gyda gweithgareddau i blant, ac ymuno â sesiynau holi ac ateb gydag arbenigwyr garddio.

Bydd themâu bob dydd yn cynnwys gerddi bywyd gwyllt, iechyd a lles, a thyfu mewn mannau bach a dan do.

Croesewir y digwyddiad yn arbennig gan y rheini sydd wedi mwynhau bod allan yn yr ardd yn ystod y cyfnod cloi.

Yn ôl pôl a gynhaliwyd gan y RHS, mae 57% o bobl sydd â gerddi a mannau awyr agored yn eu gwerthfawrogi’n fwy nawr nag erioed, ac mae 71% yn teimlo eu bod wedi helpu gyda’u hiechyd meddwl yn yr wythnosau diwethaf.

Ailagorodd canolfannau garddio yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf gyda chiwiau hir, ac mae cwmnïau hadau wedi sôn am gynnydd enfawr mewn gwerthiant.