Mae Gweinidog Iechyd Iwerddon, Simon Harris wedi dweud ei fod yn falch ond yn nerfus wrth i Iwerddon gymryd ei chamau cyntaf i lacio’r cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws.
Fel rhan o’r camau cyntaf heddiw, (dydd Llun, Mai 18) mae rhai siopau’n ailagor a gwaith yn yr awyr agored yn ailddechrau.
- Gellir chwarae chwaraeon fel golff a thenis unwaith eto
- gall gweithwyr adeiladu, a garddwyr fynd yn ôl i’w gwaith
- bydd canolfannau garddio, storfeydd, marchnadoedd ffermwyr, ac optegwyr hefyd yn ailagor.
Llacio’n ofalus
Bydd pobl yn gallu cyfarfod mewn grwpiau o bedwar mewn lleoliadau awyr agored cyn belled â’u bod yn ymbellhau’n gymdeithasol.
Gan mai dyma’r cam cyntaf un, mae pobl wedi cael eu hannog i wisgo gorchuddion wyneb wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus brysur neu mewn mannau caeedig dan do fel siopau.
“Rwy’n falch ein bod wedi cyrraedd y pwynt yma oherwydd ymdrechion anhygoel pobl Iwerddon i atal y firws,” meddai Simon Harris wrth Radio RTE.
“Rwy’n nerfus gan nad yw’r firws wedi mynd yn gyfan gwbl ac mae ‘na bobl yn ein gwlad sydd yn dal yn mynd yn sâl iawn ac yn marw bob dydd.
“Mae angen i ni i gyd wynebu’r wythnosau nesaf gan ddangos, mae’n debyg, synnwyr cyffredin.
“Dyw’r ffaith fod rhywle ar agor ddim yn golygu bod yn rhaid i ni fynd.
“Gan fod rhywle ar agor mae’n bwysicach fyth ein bod yn cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo a pheidio pesychu wrth ymyl pobl eraill, ac aros adref – heblaw am yr amgylchiadau sy’n cael eu hamlinellu.
“Os ydyn ni’n gwneud y tair wythnos nesaf yn iawn, fe fyddwn ni fel gwlad yn dod o hyd i ffordd o fyw’n ddiogel ochr yn ochr â’r firws.”