Mae colli’r gallu i flasu neu arogli wedi cael ei ychwanegu’n swyddogol at restr symptomau’r coronafeirws y Gwasanaeth Iechyd, wythnosau ar ôl i arbenigwyr godi pryderon am y tro cyntaf bod achosion Covid-19 yn cael eu methu.

Dylai unrhyw un sy’n colli blas neu arogl nawr ynysu eu hunain am saith diwrnod er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r haint, dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, yr Athro Jonathan Van-Tam.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd prif swyddogion meddygol Prydain,  Dr Frank Atherton o Gymru, Dr Michael McBride o Ogledd Iwerddon, Dr Gregor Smith o’r Alban a’r Athro Chris Whitty o Loegr, y  dylai pob unigolyn ynysu ei hun o heddiw (Dydd Llun, Mai 18) ymlaen os yw’n datblygu peswch neu dwymyn parhaus newydd neu anosmia, sef colli’r gallu i flasu neu arogli.

Anosmia

“Anosmia yw’r golled neu’r newid yn eich synnwyr arferol o arogl. Gall hefyd effeithio ar eich synnwyr blas gan fod cysylltiad agos rhwng y ddau,” meddai’r datganiad.

“Rydym wedi bod yn monitro’r data a’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg ar Covid-19 ac ar ôl ystyriaeth drylwyr, rydym bellach yn ddigon hyderus i argymell y mesur newydd yma.

“Dylai pawb ar aelwyd yr unigolyn ynysu hefyd am 14 diwrnod, a dylai’r unigolyn aros gartref am saith niwrnod, neu fwy os oes ganddyn nhw symptomau sy’n parhau ar wahân i beswch neu golli ymdeimlad o arogl neu flas.”