Mae’r Blaid Lafur yn galw ar Lywodraeth yr Alban i gadw cofnod o effaith y coronafeirws ar leiafrifoedd ethnig er mwyn penderfynu a yw eu risg o gael eu heintio’n uwch na phobol â chroen gwyn.

Mae Anas Sarwar wedi ysgrifennu at Jeane Freeman, Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, yn annog y llywodraeth i gydnabod y pwysau ar leiafrifoedd ethnig am resymau gwaith, cymdeithasol a naturiol.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae pobol groenddu yng Nghymru a Lloegr bedair gwaith yn fwy tebygol o farw yn sgil y coronafeirws nag unrhyw un â chroen gwyn.

Mae pobol o dras Asiaidd hefyd yn fwy tebygol o farw yn sgil y feirws.

Mae Anas Sarwar yn galw am warchod gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd o dras ethnig lleiafrifol, gan fod nifer sylweddol ohonyn nhw ar y rheng flaen wrth frwydro’r feirws.

Mae’n galw am gynnal asesiad risg.

‘Haeddu gwybod’

Yn ôl Anas Sarwar, mae gweithwyr iechyd o dras ethnig lleiafrifol yn “haeddu gwybod” os ydyn nhw mewn mwy o berygl na phobol â chroen gwyn ar y rheng flaen.

“Yn gyfnewid am y gwaith o achub bywydau maen nhw’n ei wneud ar y rheng flaen, mae cymunedau lleiafrifoedd ethnig yr Alban yn haeddu gwybod a ydyn nhw mewn mwy o berygl o Covid-19 ac os felly, pa gamau y gellir eu cymryd i atal rhagor o fywydau rhag cael eu colli,” meddai.

“Dw i wedi ysgrifennu at Lywodraeth yr Alban gyda nifer o gwestiynau ac argymhellion, gan gynnwys pa wersi gafodd eu dysgu o astudiaeth yn 2015 i gyfraddau uchel o haint anadlu ymhlith Albanwyr o dras Bacistanaidd.

“Dw i’n credu y gallai teilwra negeseuon ar gyfer poblogaeth lleiafrifoedd ethnig yr Alban wella deilliannau iechyd, gan gynnwys hyrwyddo cynnyrch Fitamin D.”

Mae’n dweud y dylai Llywodraeth yr Alban gydweithio â Iechyd Cyhoeddus Lloegr wrth gynnal ymchwiliad i’r mater, ac ystyried a fyddai angen ymchwiliad tebyg yn yr Alban.