Mae penaethiaid y diwydiant awyrennau’n galw am ailgyflwyno hediadau rhwng gwledydd risg isel.
Maen nhw’n gofidio am effeithiau economaidd cyfyngiadau’r coronafeirws.
Yn ôl John Holland-Kaye, prif weithredwr maes awyr Heathrow, dylai Llywodraeth Prydain fabwysiadu camau er mwyn penderfynu pa mor beryglus fyddai gwahnol deithiau.
Mae’n rhybuddio y gallai’r economi ddiodde’n enbyd pe bai’r cyfyngiadau’n para amser hir, ac mae’n dweud ei fod yn fater mwy na “mynd ar wyliau”, gan fod 40% o allforion gwledydd Prydain yn mynd ar awyrennau.
“Y diwydiant awyr sy’n rhoi bywyd i economi’r Deyrnas Unedig, felly mae nifer o weithgynhyrchwyr yn dibynnu ar y gadwyn gyflenwi’n dod yn yr awyr, ac mae eu hallforion yn mynd yn yr awyr,” meddai wrth Sky News.
Mae’n dweud y bydd Heathrow yn defnyddio technoleg gwres thermol fel modd o sgrinio teithwyr ar gyfer y feirws o’r wythnos nesaf ymlaen.
‘Risg isel’
Mae nifer y teithwyr wedi gostwng 97% ers dechrau ymlediad y coronafeirws – o gyfartaledd o 250,000 y dydd i lai na 6,000.
Ac mae John Holland-Kaye yn dweud bod niferoedd o’r fath yn achosi “risg isel”.
“Dyma lefel isel iawn o draffig a dw i’n credu y bydd y lefel isel yn parhau cyhyd â bod cwarantîn yn ei le.
“All y cwarantîn ddim bod yn ei le am fwy na chyfnod eithaf byr os ydyn ni am symud yr economi eto.
“Dyna pam ein bod ni’n annog y Llywodraeth i fabwysiadu safonau rhyngwladol cyffredin, gan gydweithio â gwledydd eraill fel y gall traffig ddechrau llifo mewn ffordd arferol rhwng gwledydd risg isel.”
Mae Conffederasiwn Diwydiant Prydain yn cefnogi safbwynt y maes awyr.