Mae disgwyl penderfyniad terfynol y penwythnos yma ar ddyfodol cynllun ffyrlo y Llywodraeth.

Yn ôl y Financial Times, fe fydd gweinidogion yn trafod ffyrdd o ddod â’r cynllun drudfawr i ben cyn cyhoeddiad Boris Johnson yfory ar newidiadau i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr.

Mae o leiaf 6.3 miliwn o bobl hyn derbyn hyd at 80% o’u cyflogau ar hyn o bryd o dan y drefn ffyrlo – ar gost o tua £8 biliwn i’r Llywodraeth.

Yn gynharach yr wythnos yma, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak ei fod yn paratoi i ‘ddiddyfnu’ gweithwyr a busnesau oddi ar y rhaglen ynghylch pryderon fod pobl yn mynd i ddibynnu arni.

Mae pryderon fodd bynnag y byddai dod â’r cynllun i ben ym mis Mehefin yn peryglu miliynau o swyddi pe bai cwmnïau’n cael eu gorfodi i agor o dan amgylchiadau economaidd anodd.

I osgoi hyn mae rhai gweinidogion wedi awgrymu dod âr rhaglen i ben yn raddol dros y misoedd nesaf gan ganiatáu’r hyblygrwydd i weithwyr ddychwelyd i’w gwaith yn rhan-amser ar y cychwyn.