Mae disgwyl i gyfnod cwarantin gorfodol o 14 diwrnod ar bawb sy’n teithio i Brydain gael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog yfory.

Fe fyddai’n rhan o becyn o fesurau i geisio rhwystro ail begwn o’r pandemig Covid-19 ar ôl llacio cyfyngiadau ar symud.

O dan y rheoliadau hyn, sy’n debygol o ddod i rym y mis nesaf, bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy’n cyrraedd meysydd awyr a phorthladdoedd nodi cyfeiriad lle byddan nhw’n hunan-ynysu am 14 diwrnod.

Byddai’r awdurdodau’n gwneud hap-wiriadau o’r bobl hyn, gyda chosbau a fyddai’n cynnwys dirwyon hyd at £1,000 ac allgludo.