Mae Banc Lloegr wedi rhybuddio am effaith y coronafeirws ar yr economi gan ddweud y gallai blymio hyd at 30% erbyn yr haf.

Daw hyn wrth i’r banc gadw cyfraddau llog ar ei lefel isaf erioed o 0.1% ar ôl cymryd camau brys.

Dywedodd Banc Lloegr ei fod yn disgwyl i Gynnyrch Domestig Gros (GDP) ostwng tua 3% yn y tri mis cyntaf yn 2020 ac yna plymio 25% yn yr ail chwarter. Ond mae wedi rhybuddio bod ansicrwydd ynglŷn â’r rhagolygon.

Yn ei ragolygon cyntaf i effaith pandemig y coronafeirws ar economi’r Deyrnas Unedig mae Banc Lloegr wedi rhybuddio am ostyngiad mewn GDP yn yr hanner cyntaf a chynnydd “sylweddol” yn nifer y di-waith.

Ond yn ôl Banc Lloegr mae disgwyl i’r gostyngiad fod dros dro cyn i’r economi “wella’n gyflym” pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu llacio. Serch hynny, dywedodd y bydd yn “cymryd peth amser” cyn i’r economi wella.

Mae Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc wedi pleidleisio’n unfrydol i gadw cyfraddau llog yn 0.1%.