Mae Virgin Media ac O2 wedi cyhoeddi eu bod yn uno i greu un cwmni cyfryngau a thelathrebu gwerth £31 biliwn.
Daeth cadarnhad ddydd Llun (Mai 4) fod y ddau gwmni yn cynnal trafodaethau ynglŷn â chynlluniau posib i uno.
“Rydym yn gyffrous iawn am uno gyda O2,” meddai prif weithredwr Liberty Global, perchennog Virgin Media.
“Mae Virgin Media wedi ailddiffinio band llydan ac adloniant yn y Deyrnas Unedig gyda chyflymder anhygoel yn ogystal â’r platform fideo mwyaf arloesol.
“Ac mae O2 yn cael ei adnabod fel y gweithredwr ffonau symudol mwyaf dibynadwy yn y Deyrnas Unedig, sydd wastad yn rhoi cwsmeriaid yn gyntaf.”
Tra bod Jose Maria Alvarez-Pallete, prif weithredwr Telefonica, perchennog O2, wedi dweud bod cyfuno’r ddau gwmni yn “creu cystadleuydd cryf” i fuddsoddi yn isadeiledd digidol y Deyrnas Unedig yn ogystal â “darparu mwy o ddewis a gwerth i filiynau o gwsmeriaid, busnesau a chwsmeriaid.”