Fe fydd Boris Johnson yn adolygu’r mesurau sydd mewn lle i geisio atal y coronafeirws rhag lledu ac mae disgwyl iddo ddechrau llacio’r rheolau o wythnos nesaf ymlaen.

Fe fydd y Prif weinidog yn cadeirio cyfarfod o’i Gabinet heddiw (dydd Iau, Mai 7) er mwyn cynnal adolygiad cyfreithiol o’r cyfyngiadau, sydd mewn grym yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae disgwyl i weinidogion ystyried pa reolau fydd yn gallu cael eu llacio tra’n cadw’r firws o dan reolaeth.

Roedd awgrymiadau y bydd Boris Johnson yn cyhoeddi rhywfaint o newidiadau mewn anerchiad ddydd Sul (Mai 10) gyda rhai mesurau newydd yn cael eu cyflwyno mor fuan â dydd Llun (Mai 11).

Yn ôl adroddiadau fe allai’r newidiadau gynnwys yr hawl i ymarfer corff heb gyfyngiadau, ail-ddechrau rhai chwaraeon, picnic mewn parciau, ac agor tafarndai a chaffis lle mae pobl yn gallu eistedd tu allan. Ond byddai’n parhau’n ofynnol i bobl gadw 2 metr ar wahân.

Gallai’r newidiadau hefyd gynnwys hepgor y neges “arhoswch adref”, ac annog pobl i wisgo masgiau ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn llefydd poblog, wrth i rai ddychwelyd i’r gwaith.

Profion

Yn y cyfamser mae arweinwyr y gwrthbleidiau wedi mynnu eglurhad yn dilyn gostyngiad yn nifer y profion sy’n cael eu cynnal ar ôl i’r Llywodraeth fethu ei tharged o 100,000 o brofion am y pedwerydd diwrnod yn olynol.

Dywedodd y Blaid Lafur nad oedd hynny yn “hybu hyder” yn y cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog osod targed o greu capasiti i gynnal 200,000 o brofion coronafeirws bob dydd erbyn diwedd y mis.