Mae arolwg newydd wedi datgelu bod tua pedwar ymhob 10 gweithiwr hanfodol yn poeni am eu hiechyd a’u diogelwch yn ystod y pandemig coronafeirws.

Dywed 179 (59.7%) o’r 298 o bobl sy’n disgrifio’u hunain fel gweithwyr hanfodol mewn arolwg o 1,423 o oedolion gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y coronafeirws yn effeithio ar eu swyddi.

O’r rhain, dywed 39.6% fod ganddynt ofidion iechyd a diogelwch, tra bod eraill yn gofidio ynglyn â chynnydd mewn oriau gweithio.

Drwy gydol yr argyfwng, mae gweithwyr hanfodol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gofal iechyd, yr heddlu yn ogystal â meysydd eraill wedi codi pryderon ynghylch diffyg cyfarpar diogelu personol a phrofion.

Doedd yr arolwg ddim yn holi unigolion am eu gofidion iechyd a diogelwch penodol.

Y broblem fwyaf sy’n effeithio gweithwyr hanfodol yw’r effaith ar eu gwaith, ond i oedolion yn gyffredinol, anallu i wneud trefniadau yw’r broblem fwyaf.

Dywed 39.2% o’r holl oedolion bod y pandemig yn effeithio eu gwaith, yn bennaf oherwydd bod yn rhaid iddynt weithio o adref. Tra bod un ymhob chwech (16.9%) ohonyn nhw oedd yn dweud eu bod yn gofidio am eu hiechyd a diogelwch wrth weithio.