Mae pryderon wedi’u codi am y diffyg ASau Cymreig ar bwyllgor cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin.
Gan nad yw cyfiawnder wedi ei ddatganoli i Gymru, San Steffan sydd yn gyfrifol am benderfyniadau ynghylch carchardai ac ati yn y wlad hon.
Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin sydd felly yn craffu ar benderfyniadau Llywodraeth San Steffan yn y maes yma yng Nghymru a Lloegr.
Yn rhifyn Golwg yr wythnos hon, mae Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn tynnu sylw at y ffaith nad oes ASau Cymreig ar y pwyllgor.
Ac mae’n dadlau bod yna “ddiffyg” yn y ffordd mae anghenion Cymru’n cael ei hadlewyrchu – o ran materion cyfiawnder – yn Llundain.
Y pwyllgor
“Dyw’r cyd-destun datganoledig ddim yn cael eu hadlewyrchu yn ddigonol,” meddai’r academydd o Brifysgol Caerdydd. “Does neb ar y pwyllgor yna [o Gymru].
“Dw i ddim yn dweud eu bod yn anwybyddu Cymru yn fwriadol, a’u bod yn mynd allan o’u ffordd i anwybyddu Cymru.
“Ond does neb ar y pwyllgor sydd yn mynd i godi ei law a dweud: ‘wel, a dweud y gwir, mae’n wahanol yn fy etholaeth yng Nghymru’.
“Ond yn y pendraw mae yna ddiffyg mawr o ran sut mae Cymru’n cael ei hadlewyrchu yn y man lle ddylai bod hyn yn cael ei ddelio ag ef.”
Mae yna 11 AS ar y pwyllgor, gyda phob un o’r rheiny yn cynrychioli etholaethau yn Lloegr, gan eithrio un AS o’r SNP. Mae pwerau cyfiawnder helaeth wedi’u datganoli i’r Alban.
Rhagor
Gallwch ddarllen rhagor, gan gynnwys casgliadau’r academydd ar garchardai Cymru, yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.