Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Robert Buckland wedi cyfaddef y gallai’r Llywodraeth y Deyrnas Unedig fethu ei darged o 100,000 o brofion coronafeirws dyddiol erbyn diwedd mis Ebrill.

Gyda disgwyl i 52,000 o brofion gael eu cynnal heddiw (dydd Iau, Ebrill 30) mae’n amlwg na fydd y Llywodraeth yn cyrraedd y targed hwn.

Dywed Robert Buckland fod y Llywodraeth “ar ei ffordd” i hitio’r targed ond bod yr Ysgrifennydd Iechyd yn haeddu canmoliaeth “hyd yn oed os nad ydym yn hitio’r targed heddiw.”

Daw hyn wedi i Ddarparwyr Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n cynrychioli ysbytai ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr rybuddio bod y targed wedi tynnu sylw oddi wrth fethiannau mewn strategaeth coronafeirws tymor hir.

Dywed prif weithredwr Darparwyr GIG, Chris Hopson y bydd angen hyd at 120,000 o brofion yn ddyddiol ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael lockdown, er mwyn osgoi ail don o’r feirws.

Gyda 800,000 o bobl yn gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, dywed Chris Hopson y byddai rhwng 110,000 a 120,000 o brofion yn golygu bod staff yn cael eu profi unwaith yr wythnos.

Mae Chris Hopson wedi annog y Llywodraeth i ddiweddaru ei strategaeth coronaferiws yn ogystal â chynyddu capasiti profion.

“Rydym angen gwybod beth yr ydym am ei wneud yn nhermau profion dros y chwe, wyth, 10, 12 wythnos nesaf wrth i ni ddod allan o’r lockdown,” meddai.

“Yr hyn sydd ar goll yw, does gennym ni ddim strategaeth yn nhermau’r cyfnod nesaf.”