Ac yntau’n 100 oed heddiw, mae Capten Tom Moore wedi diolch i’r cyhoedd am eu cyfarchion pen-blwydd.

Roedd yr hen ŵr yn filwr adeg yr Ail Ryfel Byd, ac mae wedi dod yn ffigur amlwg ar ôl iddo godi £30m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Yn wreiddiol, roedd wedi bwriadu codi £1,000 i’r Gwasanaeth Iechyd trwy gerdded o gwmpas ei ardd ganwaith, ond denodd cryn sylw â’i frwdfrydedd ac mi gododd llawer yn rhagor.

Mae wedi ymrwymo i ddal ati i gerdded o gwmpas ei ardd, ac mae ei ymroddiad wedi denu cyfarchion pen-blwydd gan lu o ffigyrau amlwg.

Diolch am “haelioni anferthol”

“Mae cyrraedd 100 yn dipyn o beth,” meddai. “Mae cyrraedd 100 gyda chymaint o ddiddordeb ynof i, a haelioni anferthol gan y cyhoedd, wel, mae hynny’n anodd ei amgyffred.

“Mae pobol yn dweud o hyd bod yr hyn dw i wedi ei wneud yn rhyfeddol. Ond yr hyn rydych chi wedi gwneud drosta i – dyna sydd wir yn rhyfeddol.”

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, a’r Tywysog Siarl ymhlith y rheiny sydd wedi anfon cyfarchion pen-blwydd.