Bydd Boris Johnson yn cynnal cynhadledd ddyddiol y llywodraeth i’r wasg yn ddiweddarach heddiw – y cyntaf ers iddo ddychwelyd i’w waith.

Roedd y Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi bod yn sâl â haint covid-19, ac mi ddychwelodd i’w swyddogaethau yr wythnos hon.

Methodd â chymryd rhan yn sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher yn sgil genedigaeth ei fab â’i ddarpar wraig.

Mae disgwyl diweddariad am sefyllfa’r coronafeirws yn ddiweddarach, ond mae dyfalu na fydd unrhyw gyhoeddiadau mawr am godi cyfyngiadau.

Marwolaethau

Brynhawn ddoe datgelodd Llywodraeth San Steffan bod 26,097 o wedi marw mewn ysbytai, cartrefi gofal, ac yn y gymuned ehangach yn y Deyrnas Unedig.

Dyma’r tro cyntaf i ffigurau farwolaethau cartrefi gofal a’r gymuned ehangach gael eu cynnwys yn ffigur dyddiol y Llywodraeth.

Ac mae’r newid yma yn y ffordd o fesur marwolaethau yn golygu mai’r Deyrnas Unedig sydd â’r ffigur trydydd uchaf yn y byd.

Dim ond yr Unol Daleithiau (58,355) a’r Eidal sydd â ffigurau uwch (27,359).