Bydd y treialon cyntaf o frechiadau coronafirws ar bobl ym Mhrydain yn dechrau fory, Dydd Iau Ebrill 23, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Matt Hancock.

Bydd Prydain yn “taflu popeth” i fod y cyntaf i ddatblygu brechiad llwyddiannus meddai.

Yn ei gyhoeddiad ddoe, Ebrill 21, datgelodd  Matt Hancock mai gwyddonwyr yn Rhydychen fydd yn dechrau cynnal profion i weld pa mor ddiogel yw’r cyffur.

Cyhoeddodd hefyd y bydd yna £20 miliwn o gyllideb i dreialu ar raddfa llawer mwy dros yr haf, yn ogystal a £22.5 miliwn i brosiect tebyg yng Ngholeg Ymerodrol Llundain.

Blynyddoedd

“Fel arfer, byddai’n cymryd blynyddoedd i gyrraedd fan hyn” meddai.

“Ond does dim am hyn yn anochel. Mae cynhyrchu brechiad yn fater o dreialu.

“Mae’r manteision o gael brechiad mor anferth, rydw i’n taflu popeth ato.”