Heddiw, dydd Mercher, Ebrill 22 mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cadarnhau bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £33m ar gael i helpu awdurdodau lleol i barhau i ddarparu prydau ysgol am ddim.
Cymru yw’r wlad gyntaf ym Mhrydain i warantu cyllid ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim nes bod ysgolion yn ailagor neu tan ddiwedd mis Awst, a bydd pob plentyn sy’n gymwys yn derbyn swm cyfatebol i £19.50 yr wythnos.
Dulliau gweithredu lleol yn “gweithio’n dda”
“Mae gennym ni hyder yn y ffordd mae awdurdodau lleol wedi ymateb yn gyflym i’r argyfwng yma ac rydym yn ymwybodol bod y dulliau gweithredu lleol yn gweithio’n dda” meddai’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams.
“Ar ôl ystyried a fyddai cynllun talebau cenedlaethol yn gweithio, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dull hwnnw o weithredu.
“Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol, yn ariannol a thrwy gyfarwyddyd adolygedig, i ddarparu atebion lleol tra mae’r ysgolion yn parhau ar gau.
“Gallaf gadarnhau y byddwn yn darparu £33m i alluogi awdurdodau lleol i barhau â’r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim nes bod yr ysgolion yn ailagor neu hyd at ddiwedd mis Awst.”
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir y Fflint), Llefarydd Addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae awdurdodau lleol wedi gweithredu ar frys i sicrhau bod trefniadau yn eu lle i ddarparu prydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys. Rydyn ni’n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu pecyn ariannol sy’n golygu y bydd awdurdodau lleol yn gallu parhau i ddarparu’r gefnogaeth hon drwy gydol gwyliau’r ysgol dros yr haf neu nes bydd yr ysgolion yn ailagor.”