Mae dwy ddynes oedrannus, aeth i’r ysbyty ar ôl disgyn, wedi marw ar ôl cael eu heintio gyda’r coronafeirws.

Bu farw Eileen Jean Owen, 94, o Landrillo yn Rhos, ar Ebrill 13 ar ôl cael ei heintio yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Tra bod Margaret Byron, 86, wedi marw yn yr un ysbyty ddau ddiwrnod yn ddiweddarach o’r feirws.

Dywed crwner Gogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, John Gittins, fod Eileen Jean Owen wedi disgyn ar y stryd ar Fawrth 22.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty ac yn ddiweddarach cafodd ei heintio gyda’r coronafeirws.

Aeth Margaret Byron i Ysbyty Glan Clwyd ar Chwefror 28 ar ôl torri ei choes.

Roedd hi wedi derbyn triniaeth ac yn gwella yn yr ysbyty pan gafodd ei heintio gyda’r coronafeirws.

Cafodd cwestau i farwolaethau’r ddwy eu cychwyn, gan eu cynnal o bell, a chafodd y ddau gwest eu gohirio.

Bydd cwestau llawn nawr yn cael eu cynnal, gyda’r dyddiadau i gael eu cyhoeddi maes o law.