Bydd rhai o gymeriadau comedi mwyaf poblogaidd y BBC yn dychwelyd i’r sgrîn nos Iau (Ebrill 23) fel rhan o noson i godi arian at y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd Dawn French yn dychwelyd i’w rôl fel Geraldine yn The Vicar of Dibley, tra bydd Catherine Tate yn atgyfodi Lauren, a David Walliams a Matt Lucas yn cymryd rhan mewn darllediad o Little Britain.

 

Mae’r noson, fydd yn cael ei darlledu rhwng 7-10 nos Iau, wedi’i threfnu ar y cyd gan Blant Mewn Angen a Comic Relief, gyda’r elw’n mynd at staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n mynd i’r afael â’r coronafeirws.

 

Dydy The Vicar of Dibley ddim wedi cael ei darlledu ers 2015, ac mae dros ddegawd ers i Little Britain gael ei darlledu.

 

Bydd Catherine Tate yn atgyfodi’r cymeriad Lauren, y ferch ysgol ddrygionus, wrth iddi gael ei dysgu gartref gan David Tennant.

 

Hefyd yn cymryd rhan yn y noson fydd y cyflwynwyr gwadd Matt Baker, Zoe Ball, Lenny Henry, Davina McCall a Paddy McGuinness.

Bydd gwesteion yn cynnwys Peter Kay a Gary Barlow.