Mae cwmni yng Nghaerdydd sy’n dylunio llwyfannau ar gyfer sioeau’r West End yn cael parhau â’i waith ar ôl i fanc Lloyd’s gamu i’r adwy.

Mae Bay Productions, sy’n cyflogi 50 o bobol, wedi dylunio llwyfannau ar gyfer sioeau fel Les Miserables a The Sound Of Music.

Ac fe fydd y gwaith o baratoi setiau ar gyfer sioeau fydd yn cael eu llwyfannu yn y dyfodol yn parhau, gan gynnwys sioe newydd sy’n seiliedig ar y ffilm Frozen a’r opera sebon EastEnders.

‘Cyfnod ansicr’

“Mae’r pandemig presennol wedi dod â’r llenni i lawr, nid yn unig ar ein busnes ni, ond hefyd i’n cleientiaid sydd wedi buddsoddi symiau mawr i ddod â sioeau i’r theatr yn y Deyrnas Unedig a thramor,” meddai Peter Jones, un o gyfarwyddwyr Bay Productions.

“Fe wnaethon ni lansio’n busnes tua diwedd y dirwasgiad diwethaf, oedd yn gyfnod eithaf ansicr.

“Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu ansicrwydd.

“Mae’r banc wedi ein rhoi ni mewn sefyllfa lle gallwn ni bontio unrhyw fylchau sy’n ymddangos yn ein llif arian tra bod prosiectau’n aros i gael eu cwblhau.

“Bydd yr arian hefyd yn ein galluogi ni i weithredu eto pan ddaw’r amser.”